Dŵr Yn Yr Afon - Heiddwen Tomos
£7.99
Dyma nofel ysgwytom sy'n adrodd stori teulu mewn cymued wledig yng ngorllewin Cymru. Rhedeg ffarm sy'n troedio ffin fregus rhwng llwyddiant a methiant y mae Morgan a'i fab Rhys - mae'r ddau'n anghytuno'n gyson ac dannod i'w gilydd am bwy sy'n feistr ar bwy. Perthynas gymhleth a threisgar sydd gan Rhys a'i ail wraig, Han, er bod Morgan yn ceisio ei gwarchodhi rhag gormod o niwed. Ond beth sydd wrth wraidd cyfan? Daw llais o'r gorffennol i ddatgelu'r gwead trasig sy'n clymu aelodau'r teulu'n dynn at ei gilydd, a dod â nhw i sefyllfa lle gellid yn hawdd ddatod pob dim yn llwyr."